Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 5 Chwefror 2024

Amser: 13.30 - 16.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13704


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Samuel Kurtz AS

Adam Price AS

Tystion:

Sam Rowlands AS

Manon Huws, Gwasanaethau Cyfreithiol

Jennifer Cottle, Gwasanaeth Cyfreithiol

Gareth Rogers, Pennaeth y Swyddfa Gyflwno

Dr Dave Harvey, Aelodau'r Senedd a'u Staff Cymorth

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Anfonodd Alun Davies ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru):  Sesiwn Dystiolaeth

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Rowlands AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(6)449 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. 

</AI4>

<AI5>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI5>

<AI6>

4.1   SL(6)447 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

5       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI7>

<AI8>

5.1   SL(6)440 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o eglurder.

</AI8>

<AI9>

5.2   SL(6)441 - Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o eglurder.

</AI9>

<AI10>

5.3   SL(6)444 - Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI10>

<AI11>

6       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes

</AI11>

<AI12>

6.1   SL(6)435 – Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

7       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI13>

<AI14>

7.1   Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Gwahardd Gwasanaethau) 2023

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.

</AI14>

<AI15>

7.2   Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

</AI15>

<AI16>

8       Papurau i’w nodi

</AI16>

<AI17>

8.1   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:  Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

</AI17>

<AI18>

8.2   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Biliau Diwygio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Biliau Diwygio.

</AI18>

<AI19>

8.3   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cyllid: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cyllid.

</AI19>

<AI20>

8.4   Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru: crynodeb o’r ymatebion

Nododdd y Pwyllgor grynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru.

</AI20>

<AI21>

8.5   Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ’r Arglwyddi Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷr Arglwyddi

</AI21>

<AI22>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI22>

<AI23>

10    Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru):  Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Sam Rowlands AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

</AI23>

<AI24>

11    Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI24>

<AI25>

12    SICM(6)4 - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024

Trafododd y Pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

</AI25>

<AI26>

13    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI26>

<AI27>

14    Cytundebau rhyngwladol

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

·         Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol

·         Diwygiad i'r Cytundeb sy'n Sefydlu'r Banc Ewropeaidd ar gyfer Ailadeiladu a Datblygu (EBRD)

·         Y DU ac Ynysoedd Philippines ar Drosglwyddo Personau sydd wedi’u Dedfrydu

Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau yn ei gyfarfod nesaf.

</AI27>

<AI28>

15    Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan, a chytunodd i ysgrifennu ymhellach at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes. 

</AI28>

<AI29>

16    Blaenraglen waith

Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arno.

Cytunodd hefyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad cyn y sesiwn graffu arfaethedig gyda’r Cwnsler Cyffredinol ar 26 Chwefror 2024.

</AI29>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>